Safle labordai gwyddoniaeth Prifysgol Llundain, 164 Stryd Fawr, Bangor
Sefydlodd Coleg Prifysgol Llundain labordai gwyddoniaeth mewn siop yma yn 1942. Cafodd yr adeilad ei ddinistrio gan dân yn 2019.
Roedd trafodaethau wedi dechrau mor gynnar â 1938 i Brifysgol Bangor gynnal myfyrwyr a fyddai'n cael eu symud o Lundain pe bai rhyfel. Yn 1939 cyrhaeddodd y garfan gyntaf o 197 o fyfyrwyr UCL, gyda 17 o'u staff addysgu. O hynny tan 1944, roedd tua 200 o fyfyrwyr UCL bob blwyddyn wedi'u lleoli ym Mangor. Daeth rhai o'r myfyrwyr yn aelodau o staff Prifysgol Bangor yn y pen draw.
Yn y 1940au roedd Prifysgol Bangor yn llawer llai nag y mae heddiw, a rhoddwyd rhai adeiladau prifysgol ar waith at ddefnydd rhyfel. Roedd dod o hyd i safle addas ar gyfer yr holl fyfyrwyr UCL yn broblem. I ddechrau, roedd myfyrwyr gwyddoniaeth yn ymwneud â mainc labordy mewn ystafell ym mhrif adeilad y brifysgol, ond o 1942 roedd cyfleusterau yn 164 Stryd Fawr, siop feics gynt.
Roedd darlithwyr UCL a dreuliodd flynyddoedd y rhyfel ym Mangor yn cynnwys John Neale, arbenigwr ar hanes Elisabeth, y sŵolegydd GP Wells (mab yr awdur HG Wells), a'r palaeobiolegydd DMS Watson, y gwyddonydd cyntaf i ddangos bod mamaliaid wedi esblygu o ymlusgiaid.
Bu'r ymgilio yn werthfawr i'r ddwy brifysgol. Llwyddodd Prifysgol Bangor i gynnal gweithgarwch academaidd er gwaethaf gostyngiad yn nifer ei myfyrwyr ei hun, o ganlyniad i nifer o oedolion ifanc yn cymryd rhan yn yr ymdrech ryfel. Dioddefodd UCL fwy o ddifrod bom nag unrhyw brifysgol arall ond parhaodd yr addysgu ym Mangor. Pan adawodd UCL Bangor yn 1944, cyflwynodd aelodau staff UCL set o'r Geiriadur Saesneg Rhydychen llawn i'w cydweithwyr ym Mangor mewn cwpwrdd llyfrau wedi'i wneud o bren "wedi'u hachub o lyfrgelloedd llosg y Coleg yn Llundain".
Gyda diolch i David Roberts, o Brifysgol Bangor, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL57 1NU Gweld Map Lleoliad
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |