Safle gwersyll carcharorion rhyfel, Bontnewydd
Safle gwersyll carcharorion rhyfel, Bontnewydd
Yma mae Lôn Las Eifion a Rheilffordd Ucheldir Cymru yn pasio safle gwersyll carcharorion rhyfel yn y 1940au. Roedd y gwersyll yn y cae i'r dwyrain o'r rheilfford – bryd hynny y llinell lled safonol o Gaernarfon i Afonwen. Mae gwaelodion cytiau gwersylla wedi goroesi yno.
Tynnwyd yr awyrlun, a welir yma trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, gan yr Awyrlu Brenhinol ym 1950 ac mae'n dangos y gwersyll ger y gornel dde uchaf. Mae llwybr y rheilfford a'r bont ar y chwith.
Ym 1943 gofynnodd y Weinyddiaeth Waith i Gyngor Sir Gaernarfon sefydlu gwersylloedd ar gyfer carcharorion rhyfel Eidalaidd a fyddai'n gweithio ar ffermydd lleol. Roedd llawer o weithwyr fferm wedi ymuno â’r lluoedd arfog yn ystod y rhyfel ac roedd suddo llongau masnach wedi gorfodi Prydain i gynhyrchu mwy o fwyd, yn lle dibynnu ar fewnforion.
Roedd Bontnewydd yn un o'r gwersylloedd newydd. Roedd carcharorion rhyfel Eidalaidd yn aml yn beicio oddi yno i ffermydd lleol. Bu’r hanesydd Gareth Roberts yn cofio yn 2021 bod ei fam wedi dod ar draws carcharorion rhyfel fwy nag unwaith ar y trenau a oedd yn pasio Bontnewydd. Roedd hi'n cofio'r Eidalwyr yn gyfeillgar ac yn llawn hwyl.
Symudwyd yr Eidalwyr i rywle arall, a chyrhaeddodd carcharorion rhyfel yr Almaen ychydig fisoedd ar ôl i'r rhyfel yn Ewrop ddod i ben ym mis Mai 1945. Nid tan 1947-48 y caniataodd Prydain i nifer fawr o garcharorion rhyfel ddychwelyd i'r Almaen.
Roedd carcharorion rhyfel Bontnewydd weithiau'n chwarae pêl-droed yn erbyn tîm maes awyr RAF Llandwrog. Goruchwyliwyd eu lles gan y Parch Stephen Tudor (o Gapel Moriah, Caernarfon) a'i wraig. Sefydlodd y cwpl lyfrgell i'r carcharorion rhyfel a pharatoi swper iddynt bob dydd Sul. Roedd y carcharorion wrth eu bodd, ac yn galw Mrs Tudor yn “Mam”!
Ysgrifennodd mam un carcharor, Gerdina Balsters, at y Parch Tudor ym mis Tachwedd 1947 i ddiolch iddo am “yr holl ddaioni” yr oedd wedi’i ddangos, ac yr oedd yn ei ddangos, tuag at ei mab a charcharorion rhyfel eraill. Ysgrifennodd rhai cyn-garcharorion at y Tuduriaid ar ôl dychwelyd i'r Almaen, rhai yn dweud eu bod yn gweld eisiau'r bobl a'r ardal.
Cafodd y gwersyll ei ailddefnyddio yn 1962 i gartrefu pobl leol tra adeiladwyd ystad dai Glan Beuno. Mae'r ffordd fach heibio ymyl y safle yn arwain at Blas Dinas, o'r 17eg ganrif, a fu unwaith yn gartref i nain a thaid y ffotograffydd enwog yr Arglwydd Snowdon.
Gyda diolch i Gareth Roberts o Fenter Fachwen ac i Lywodraeth Cymru
Cod post: LL54 7YF Map
![]() |
![]() ![]() |