Gwesty Tŷ Newydd, Aberdaron

aberdaron_ty_newydd_hotelAm ganrifoedd roedd gan Aberdaron nifer anghymesur o uchel o dafarndai, gan ddarparu ar gyfer pererinion a oedd yn gorffwys yma cyn croesi'r dŵr i Ynys Enlli. Roedd Gwesty Tŷ Newydd yn cael ei ystyried yn Oes Fictoria fel prif hostel i'r pentref. 

Yn 1904 dychwelodd rheithgor cwest yn y gwesty reithfarn o farwolaeth ddamweiniol ar Joan Parry, 15 oed, a oedd wedi syrthio i'r môr wrth dynnu lluniau ger Ffynnon Fair yn ystod gwibdaith bicnic. Ei thad oedd y Barnwr Parry o Fanceinion. Cynhaliwyd ei gwasanaeth angladd yn Eglwys Sant Hywyn, wedi'r cwest, yn Gymraeg, ar gais y Barnwr Parry.

Tu ôl i'r gwesty roedd odyn galch, wrth ymyl y traeth. Llosgwyd calchfaen a glo i greu calch, oedd yn ffrwythloni caeau ffermwyr. Cyrhaeddodd deunyddiau crai mewn cwch. Yn y llun isod, mae'r odyn i'w weld yn y chwarter gwaelod ar y dde. Gall y ffigwr mewn du uwch ei ben fod yn gweithio'r odyn. Y tu hwnt mae adeiladau allanol Tŷ Newydd. Mae'r ddau lun i'w gweld yma drwy garedigrwydd gwefan hanes lleol Rhiw.com.

aberdaron_shore_with_limekiln

Uwchraddiodd Richard Griffith y gwesty ar ôl dod yn drwyddedai ar farwolaeth ei dad, a enwyd hefyd yn Richard, ym 1899. Caniatawyd iddo werthu alcohol mewn adeilad allanol tra bod y gwesty yn cael ei wella yn 1903. Yn 1900 roedd wedi priodi Catherine Jones o Dyddyn Meirion, Rhiw. Cafodd orchymyn i ymrestru yn y lluoedd arfog yn 1916 ond rhoddodd y tribiwnlys milwrol lleol eithriad amodol iddo ar ôl iddo ddadlau bod ei waith fel gwestywr yn bwysig. 

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, rhoddwyd ciniawau arbennig yng Ngwesty Tŷ Newydd ar gyfer aelodau o'r Atodiad Cymorth Gwirfoddol lleol - menywod a oedd yn darparu gofal nyrsio i filwyr clwyfedig. Cynhaliodd y gwesty ginio a te mwy prudd yn 1916 wedi'r gwasanaeth coffa yn yr eglwys ar gyfer mab y ficer, yr Ail Lefftenant Vernon Owen, a fu farw ar Ffrynt y Gorllewin yn 1915.

Yn 2006 cymerwyd y gwesty drosodd gan Iain a Wilma Roberts. Parhaodd Iain i redeg y fferm deuluol yn Solfach gerllaw, a thrwy hynny adfywio'r traddodiad hir (tan yr 20fed ganrif) o ffermwyr yn cadw tafarndai Cymreig. Roedd Iain wedi ffermio ar Ynys Enlli yn y 1990au, fel ei daid yn gynharach.

Diolch i Rhiw.com am yr hen luniau, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL53 8BE    Gweld Map Lleoliad

Gwefan Gwesty Tŷ Newydd

Mwu o hen luniau o Aberdaron – gwefan Rhiw.com

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button