Y Gegin Fawr, Aberdaron

aberdaron_gegin_fawr

Credir bod yr adeilad hwn, sydd bellach yn gartref i gaffi Y Gegin Fawr, yn dyddio o'r 17eg ganrif. Lle tân mawr yw nodwedd gynnar sydd wedi goroesi (a ddangosir yn yr hen lun o’r tu mewn). 

Gallai pererinion hawlio pryd yma o'r 13eg ganrif ymlaen cyn croesi'r dŵr i Ynys Enlli. Roedd tri phererindod yno yn cyfateb i un i Rhufain. Aeth rhai Cristnogion i Enlli i farw a chael eu hadnabod fel seintiau. Dywedir bod 20,000 o seintiau wedi'u claddu ar yr ynys. 

Yn 1900 dywedwyd wrth ynadon trwyddedu nad oedd gan y dafarn unrhyw lety i deithwyr, gyda dim ond dwy ystafell i fyny'r grisiau a dwy i lawr grisiau. Roedd un bwrdd a mainc ar gyfer cwsmeriaid.

Magwyd y Parch Robert Williams, gweinidog Anghydffurfiol cyntaf Ynys Enlli, yma. Cafodd ei ddisgrifio fel llwyr ymwrthodwr ymroddedig a oedd wedi gweld drygioni diod yn nhafarn ei dad. Bu unwaith yn pregethu dirwest ym Penycaerau gerllaw cyn dychwelyd i Enlli. Buan iawn y cyrhaeddodd newyddion ei dad - a roddodd gweir iddo ar y cyfle cyntaf! Bu farw Robert yn 1875, yn 81 oed.

aberdaron_y_gegin_fawr_interior

Cafodd William Jones o dafarn y Gegin Fawr ei ganmol am ei ddewrder mewn argyfyngau cychod. Doedd gan Aberdaron ddim gorsaf bad achub. Daeth â chyrff dau ddyn i'r lan yn ystod storm ym mis Rhagfyr 1883, pan oedd ymddangosiad sawl haig o benwaig oddi ar Aberdaron wedi annog llawer o bobl lleol i gychwyn gyda rhwydi pysgota. Roedd penwaig yn elfen bwysig o economi Pen Llŷn. 

Ym mis Awst 1887 aeth parti pysgota o dri dyn a dau fachgen i drafferthion pan drodd y tywydd yn gas. Daeth William Jones a dau gymar i’w hachub gan dod o hyd i un o'r pysgotwyr yn farw ond achub y pedwar arall. 

Clywyd galwadau am help yn Aberdaron ym mis Hydref 1888. Rhuthrodd Wiliam eto i'r môr. Daeth o hyd i ddau ddyn lleol mewn cwch a oedd yn suddo'n gyflym. Aeth dynion eraill hefyd i helpu. Dywedodd y wasg eu bod i gyd yn haeddu canmoliaeth, ond yn enwedig William am ei fod ar ei ben ei hun yn ei gwch.

Diolch i Rhiw.com am yr hen luniau, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL53 8BE    Gweld Map Lleoliad

Mwy o hen luniau o Aberdaron – gwefan Rhiw.com

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
Pilgrim's Way Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button