Gorsaf reilffordd Waunfawr
Mae Waunfawr ger ffin parc cenedlaethol Eryri. Os ydych chi'n teithio o Gaernarfon ar Reilffordd Ucheldir Cymru, fe welwch chi newid yn y golygfeydd ar ôl Waunfawr wrth i'r trên adael y coetir a dringo ar hyd llethrau isaf yr Wyddfa. Os ydych chi'n dilyn Llwybr Pererin Gogledd Cymru tuag at Aberdaron, mae Waunfawr yn nodi newid o fynyddoedd i fryniau tonnog.
Ystyr Gwaun yw rhostir. Mae absenoldeb y G cychwynnol yn awgrymu mai Y Waunfawr oedd yr enw ar un adeg ("y rhostir mawr").
Agorwyd yr orsaf gan Gwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru ym mis Awst 1877, pan ddechreuodd gwasanaethau i deithwyr rhwng Cwellyn (gorsaf ger Llyn Cwellyn) a Chyffordd Dinas. Roedd y trac o'r lled a ddefnyddid yn gyffredin mewn chwareli llechi, gyda 60cm rhwng y rheiliau. Yn 1923 dechreuodd trenau redeg ymlaen i Borthmadog. Roedd yr NWNGRC wedi uno gyda chwmni arall i ffurfio Rheilffordd Ysgafn Ucheldir Cymru y flwyddyn flaenorol.
Roedd gan yr orsaf ("Waenfawr" yn wreiddiol) linell ddolen i drenau basio ei gilydd a seidin byr. Goroesodd adeilad gorsaf gerrig gyda tho clun ar gau'r WHR yn 1937 ond roedd yn adfail pan ddechreuodd y gwaith ar ddiwedd y 1990au i adfer y safle i ddefnydd y rheilffordd. Cafodd yr adeilad ei ddatgymalu'n ofalus, fel i'w godi yn ddiweddarach, ond fe wnaeth contractwyr gamddefnyddio'r garreg a’i rhoi yn y wal newydd wrth ymyl y trac.
Ail agorwyd yr orsaf ym mis Awst 2000. Hwn oedd terfynfa'r WHR newydd am dair blynedd, tan i'r trac gael ei agor i Rhyd-ddu.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL55 4AQ Gweld Map Lleoliad
Rheilffordd Ffestiniog ar HistoryPoints.org
Gwefan Rheilffordd Ucheldir Cymru
![]() |
![]() ![]() |