Pier Ystwyth, Aberystwyth
Adeiadwyd y morglawdd sydd ar ben deheuol harbwr Aberystwyth yn y 1830au a’i atgyfnerthu yn ddiweddarach.
Mae’r llun gan James William Giles yn darlunio’r olygfa o bier Ystwyth tua 1850. Mae’n cael ei ddangos trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn y pellter mae adfeilion y castell ac ar y dde mae Pont Trefechan sy’n croesi afon Rheidol. Rhaid cymharu’r darlun â’r olygfa a fel y mae heddiw er mwyn deall sut y datblygwyd yr harbwr wedi 1850.
Adeiladwyd Pier Ystwyth o gerrig o Alltwen gerllaw. Roedd yn amddiffyn llongau yn yr harbwr rhag nerth eithaf y stormydd a chwythai o’r de-orllewin. Roedd y pier yn gymorth i leihau’r perygl wrth ddod i mewn i’r harbwr trwy leddfu natur ansicr cwrs afon Ystwyth sy’n llifo dan y bont gerllaw. Bu farw saith pysgotwr yn 1824 pan ddaliwyd eu cwch pysgota, Unity, mewn storm wrth iddyn nhw ddychwelyd i’r porthladd. Drylliwyd y llong ar y bar (sef banc dyddodion) ger y fynedfa i’r harbwr.
Ar ochr dde’r hen lun gwelir muriau carreg Glanfa Dewi Sant. Adeiladwyd glanfeydd eraill y tu draw i’r harbwr ar adeg pan oedd Aberystwyth yn ymateb i’r cynnydd ym maint y llongau. Ac roedd agerlongau yn dechrau darparu teithiau yn ôl a mlaen i Aberystwyth. Yn 1866 roedd yr Aberystwyth and Cardigan Bay Steam Packet Company yn hysbysebu y byddai’r agerlong bwerus Express (yn y llun) yn hwylio i Lerpwl a Bryste ac yn ôl, bob yn ail wythnos.
Newidiodd natur y gwaith yn yr harbwr pan agorwyd dwy reilffordd i Aberystwyth yn y 1860au, gan ddisodli hwylio ar hyd y glannau yn brif ddarpariaeth ar gyfer cludo llwythi trymion. Roedd modd dadlwytho’r cargo a ddôi i Aberystwyth yn syth i wageni’r rheilffordd ar y naill ochr a’r llall i’r glanfeydd. Roedd mynedfa rheilffordd y Manchester and Milford yn cyrraedd Aberystwyth a Glanfa Dewi Sant o gyfeirad y de. Roedd braich dros bont Ystwyth yn cyrraedd y mewndir o bier Ystwyth.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd codwyd amddffynfeydd o amgylch Aberystwyth i warchod rhag ymosodiad posibl gan yr Almaenwyr. Un o’r rhain oedd y pillbox concrid ar ben y bryncyn dros bont yr afon. Byddai milwyr wedi gallu saethu at y gelyn trwy’r agoriadau amddiffynnol sydd wedi’u cau erbyn hyn. Dinistriwyd dwy warchodfan arall. Cafodd y rheini eu codi ar y pier gyferbyn â cheg yr harbwr.
Diolch i Adrian Hughes, ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad. Ffynonellau yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru a 'Ceredigion Shipwrecks', gan William Troughton, Ystwyth Press 2006
Cod post: SY23 1BJ Gweld map y lleoliad
![]() |
![]() ![]() |