Cyn Ysgol Genedlaethol Llandinorwig, Deiniolen
Codwyd yr ysgol hon yn 1855 gan Thomas Assheton Smith, perchennog chwarel lechi Dinorwig. Daliodd y ficer Henry Grey Edwards wasanaethau eglwysig yma nes i Eglwys Crist gael ei chwblhau, ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Ym mis Tachwedd 1857 syfrdanwyd un ymwelydd o ganfod ysgoldy mor wych mewn lle fel Llandinorwig! Fe'i disgrifiodd fel un â desgiau mewn rhesi cyfochrog ar un ochr, gan adael digon o le i sefyll. Roedd yna oriel i fabanod ar un pen.
Darparwyd te parti haf blynyddol yn yr ysgol gan Thomas Assheton Smith a'i drefnu gan Eliza Edwards. Cafodd hi ei geni yng Nghaernarfon i gapten môr Anghydffurfiol, John Richards, ac roedd wedi priodi Parch Edwards yn 1856. Yn 1872, gorymdeithiodd 300 o ddisgyblion trwy Deiniolen y tu ôl i Fand Pres Llandinorwig, cyn dychwelyd i'r ysgol am "de a byns" a gemau yn y maes gyferbyn â'r eglwys.
Ym mis Hydref 1857 roedd cyffro lleol pan fenthycodd Gwesty'r Dolbadarn, Llanberis, ei harmoniwm (organ fach gyda phwmp troed am aer) ar gyfer cyngerdd yn yr ysgol. Denodd y newydd-deb hyn gynulleidfa o 400 i wrando ar Gymdeithas Harmonig Chwarel Lechi'r Penrhyn, yng nghwmni Milisia Brenhinol Sir Gaernarfon.
Mewn cyngerdd codi arian yn yr ysgol yn 1864, un o'r perfformwyr oedd y bariton uchel ei barch, cyfansoddwr, cyfeilydd ac athro cerdd John Owen, enw barddol Owain Alaw. Cododd y digwyddiad arian i Jane Owen, merch clerc Eglwys Crist, dderbyn addysg gerddorol gan Owain Alaw. Bu Cymdeithas Glee Eryri, Cymdeithas Glee Deiniolen, Jane Owen a'i thad hefyd yn canu. Bedair blynedd yn ddiweddarach, bu farw unig fab Owain Alaw, William Henry - organydd yn Eglwys Sant Bartholomew yn Nulyn - yn 23 oed.
Yn 1900 roedd 98 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol ar gyfartaledd. Mae'r hen lun yn dangos disgyblion yn yr ysgol yn 1938.
Cynhaliwyd gwasanaeth diolchgarwch i'r ysgol yn Eglwys Crist ar 19 Mawrth 1964. Cafodd y 18 disgybl arall eu gwers olaf ar 26 Mawrth cyn i'r ysgol gau. Heddiw mae'r adeilad yn eiddo i Wallasey & West Wirral Scouts ac mae'n darparu llety hostel i bobl sy'n ymddiddori yn y mynyddoedd – dilynwch y ddolen isod am fanylion.
Diolch i Dr Hazel Pierce, o The History House, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL55 3HH Gweld Map Lleoliad
|