Eglwys Sant Peris, Nant Peris nepell o Llanberis

Eglwys Sant Peris, Nant Peris nepell o Llanberis

Credir i’r adeilad fod a gwaith cerrig o’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Fe’i hestynnwyd yn ystod y tair ganrif nesaf a’i adfer eto yn yr 1840au gan gymaint cynnydd poblogaeth Llanberis. Gan fod yna 8km o drip i boblogaeth Llanberis i’r eglwys fe agorwyd eglwys fach yno, Eglwys Sant Padarn, yn 1872 gan ddilyn ac eglwys fwy yn 1885.

llanberis_nant_peris_churchTybir i Sant Peris fod yn frodor o’r chweched ganrif ac yn un o ddeuddeg mab Helig ap Glannog. Collodd Helig ei lys, Llys Helig, i’r môr. O ganlyniad i’r golled hon bu i sawl o’i feibion fyw’n ddefosiynol, rhai fel mynaich. Nepell o’r eglwys mae yna ffynnon wedi ei chysegru i Sant Peris.

Mae coed y to o’r bymthegfed ganrif a’r sgrin grog o’r un amser hefyd. Ceir blwch elusen ar gyfer y tlodion wedi ei gerfio ar waelod y sgrin, un o’r ddeunawfed ganrif mwy na thebyg. Ceir coffâd o’r rhai gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn yr eglwys.

Yma hefyd ceir cofeb i Griffith Ellis o’r Hafoty a fu farw yn 75 yn 1860 ar ôl 46 mlynedd yn arolygu chwarel lechi Dinorwig ger Llanberis. Dan ei oruchwyliaeth cynyddodd y gweithlu o 300 i fwy na 2,400. Dilynwyd o gan ei fab, Griffith arall, fel goruchwyliwr. Roedd y tad a’r mab yn byw mewn tŷ mawr ym mhen draw Dinorwig ger cyrion pen y chwarel o’r enw Blue Peris. Bu’r mab farw’n ifanc, yn 48, naw mlynedd ar ôl ei dad. Gwelir ei fedd, drws nesa i’w dad, ar ffurf obelisg yn y llun o’r eglwys yn y 1890au.

Un arall yn y fynwent ydi’r chwarelwr Owen Griffith a fu farw yn 89 yn 1908. Cyfartaledd oes bywyd chwarelwr oedd 47, a dim ond 34 i’r rhai’n hollti crawiau yn y siediau oherwydd gerwinder tywydd ac effaith angheuol y llwch. Ond fe weithiodd Owen am bron i bedwar ugain mlynedd! Ei unig newid o’r chwarel oedd cloddio’r twnnel rheilffordd ym Mhenmaenmawr.

Mae llwybrau troed yr addolwyr o Lanberis yn dal mewn bodolaeth. I’r gorllewin o’r eglwys mae 'na bont arbennig dros yr afon sy’n un darn mawr o lechen. Mae hanner arall y darn hwn o lechen yn ffurfio pont arall dros afon Hwch, y Bont Fain. Hon ydi’r bont sy’n croesi’r Hwch i fynd i fyny at gastell Dolbadarn yn Llanberis a heddiw dros y ffordd a’r maes parcio. Yn ôl hanes, wel chwedloniaeth leol, bu i Marged Fwyn Erch Ifan godi un pen i'r llechen ar ei phen ei hun.

Ger mynediad i’r eglwys mae’r cyn neuadd eglwys sydd yn awr yn ganolfan i Dîm Achub Mynydd Llanberis ers 1973.

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL55 4UH    Gweld Map Lleoliad

button-tour-quarry-path rubber_bulletNavigation previous button