Gorsaf Rheilffordd Eryri (WHR), Caernarfon
Gorsaf Rheilffordd Eryri (Welsh Highland Railway), Caernarfon
Yr orsaf hon yw man cychwyn y rheilffordd gul i Borthmadog. Agorodd y trac, sy'n mesur 60cm rhwng y cledrau, fesul cam o 1997 ymlaen, yn bennaf yn dilyn llwybr y WHR gwreiddiol a gaeodd ym 1937.
Rheolwyd y prosiect gan Reilffordd Ffestiniog. Mae traciau’r WHR yn ymuno â’r FR’s ym Mhorthmadog, gan ffurfio’r rheilffordd dreftadaeth hiraf o unrhyw fesurydd yn y DU. Mae'r llun yn dangos camerâu'r wasg a'r teledu yng ngorsaf Caernarfon ar 13 Hydref 1997, pan agorwyd y trac cyn belled â Dinas yn seremonïol.
Mae rhan gyntaf y WHR o Gaernarfon i Ddinas yn dilyn llwybr y lein lled safonol o orsaf Caernarfon i Afonwen, a gaewyd ym 1964. Roedd y lein honno ei hun wedi cymryd lle Rheilffordd Nantlle, a gafodd ei pheiriannu gan George Stephenson a’i frawd Robert ac a agorwyd ym 1828. Roedd y trac 107cm o led yn dod â llechi a chopr o Ddyffryn Nantlle i'r cei yng Nghaernarfon. Roedd rhai o'r trenau ceffyl yn cludo teithwyr.
Troswyd llwybr Rheilffordd Nantlle yn fesurydd safonol i ffurfio rhan o’r lein newydd o Afonwen ym 1866. Daeth trenau teithwyr o Afonwen i ben yng ngorsaf Pant, yn yr ardal hon. Ar ddiwedd y 1860au dechreuwyd ar y gwaith o gysylltu’r lein hon â phrif orsaf Caernarfon (lle saif archfarchnad Morrisons heddiw), drwy dwnnel o dan y Maes (y sgwâr y tu allan i’r castell). Roedd hyn yn galluogi trenau i barhau i Fangor, neu fynd i Ddoc Fictoria. Mae'r twnnel bellach yn gartref i ffordd leol.
Agorwyd gorsaf newydd WHR yn swyddogol ym mis Mehefin 2019, gan ddisodli adeiladau dros dro.
Cafodd pontydd metel ar gyfer y rheilffordd a ailagorwyd eu gwneud gan Waith Haearn Brunswick yng Nghaernarfon, a fu’n meddiannu safle ar draws y ffordd o orsaf WHR am y rhan fwyaf o’r 20fed ganrif.
Mae'r rhan fwyaf o drenau WHR yn cael eu cludo gan locomotifau cymalog Garratt (fel y dangosir yn y llun uchod), math a gynhyrchwyd yn wreiddiol gan Beyer Peacock o Fanceinion. Bu Charles Frederick Beyer, cyd-sylfaenydd Beyer Peacock, yn byw ger Llangollen am flynyddoedd olaf ei oes ac mae wedi ei gladdu ym mynwent eglwys Llandysilio.
Gyda diolch i Rhiannon James am y cyfieithiad
Cod post: LL55 2YD Map
Rheilffordd Ffestiniog ar HistoryPoints.org
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |